Pensiwn y Wladwriaeth

Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Beth ydyw?

Mae rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych yng ngwerth arian heddiw:

  • swm y Pensiwn y Wladwriaeth hwyrach y cewch yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn belled
  • amcangyfrifiad o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol hwyrach y cewch pan rydych yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth

A allaf gael rhagolwg?

Gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth drwy'r post neu drwy ffonio os ydych:

  • yn byw yn y DU ac
  • yn fwy na 30 diwrnod i ffwrdd o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac
  • yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn Ebrill 2010.

Gallwch gael rhagolwg ar lein os ydych:

  • yn byw yn y DU ac
  • yn fwy na pedwar mis i ffwrdd o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac
  • nid ydych yn weddw neu'n rhywun mae eu partner sifil wedi marw.

Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein

Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Sut i wneud cais am ragolwg

Cewch ragolwg pensiwn arlein yn syth ewasanaeth Logo e-wasanaeth

O 6 Ebrill 2020, 65 oed fydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched, yr un peth â dynion. Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn dechrau newid yn raddol o 2010.

Ni fydd hyn yn effeithio ar ferched a anwyd ar 5 Ebrill 1950 neu cyn y dyddiad hwnnw, a all barhau i wneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth yn 60 oed. Bydd gan ferched a anwyd ar 6 Ebrill 1955 neu ar ôl y dyddiad hwnnw oedran Pensiwn y Wladwriaeth o 65 oed.

Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a merched yn codi o 65 oed i 68 oed rhwng 2024 a 2046 gyda phob newid yn cael ei gyflwyno fesul cam dros ddwy flynedd yn olynol ym mhob degawd. Bydd y cynnydd cyntaf, o 65 oed i 66, yn cael ei gyflwyno fesul cam rhwng mis Ebrill 2024 a mis Ebrill 2026; yr ail, o 66 oed i 67 oed, rhwng mis Ebrill 2034 a mis Ebrill 2036; a'r trydydd, o 67 oed i 68 oed, rhwng mis Ebrill 2044 a mis Ebrill 2046.

Bydd ein cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud y dyddiad y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth wrthych.