Cyflwyniad
Aros yn annibynnol
Rydym wedi ehangu ein hamrywiaeth o wybodaeth yn yr adran hon o wefan Y Gwasanaeth Pensiwn. Os oes gennych unrhyw sylwadau am yr adran hon, rhowch wybod i ni. Ein nod yw eich helpu i aros yn annibynnol. Mae'r adran Arian a threth yn dweud wrthych am bensiynau'r wladwriaeth a help arall gan y Llywodraeth y gallech ei gael fel:
- Credyd Pensiwn
- cadw'ch cartref yn gynnes yn y gaeaf gyda Thaliad Tanwydd Gaeaf
- beth i'w wneud os credwch fod bylchau yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy'n cyfrif tuag at eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Gallwch hefyd gael gwybodaeth am fyw dramor a mathau eraill o help, megis:
- Budd-dal Treth Gyngor a Budd-dal Tai
- Benthyciadau Trefnu
- Benthyciadau Argyfwng a
- Grantiau Gofal Cymuned
Gartref yng Nghymru neu Loegr yn dweud wrthych am:
- ddiogelwch cartref
- cadw'ch cartref yn gynnes a
- gwelliannau i'r cartref
Cewch ragor o wybodaeth am ganolfannau DU ar-lein a learndirect yn ein hadran ddysgu.
Yn yr adran gwasanaethau cyfreithiol trosedd a diogelwch, gallwch gael gwybodaeth am:
- gael gwybodaeth a chyngor cyfreithiol
- gwarchod cymdogaeth a
- chymorth i ddioddefwyr
Cewch ragor o wybodaeth am docynnau bws a thrwyddedau gyrru rhatach yn ein hadran Teithio a hamdden
Cewch ragor o wybodaeth am sut i ymwneud â gwaith gwirfoddol ac am y Fargen Newydd a'r Ganolfan Byd Gwaith yn ein hadran Gwaith gwirfoddol a gwaith â thâl
Os ydych wedi colli rhywun agos, gallwch gael gwybodaeth am:
- wneud ewyllys
- treth etifeddiant
- Taliad Angladd a
- Thaliad Profedigaeth
Dilynwch y cysylltiadau ar ochr chwith y dudalen i gael rhagor o wybodaeth
Wyddech chi...?
Gall pobl dros 75 oed wneud cais am Drwydded Deledu am ddim?
Gweler ein hadran Teithio a hamdden i gael rhagor o wybodaeth
Anafiadau yn gysylltiedig â gwaith
Os ydych yn anabl oherwydd damwain yn y gwaith, neu os oes gennych afiechyd neu fyddardod a achoswyd gan swydd rydych wedi'i gwneud, efallai y gallwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Cewch ragor o wybodaeth am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.


