Canllawiau a ffurflenni

Ffurflenni cais

Gredyd Pensiwn

Gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn drwy'r rhadffon trwy ffonio'r llinell hawlio Credyd Pensiwn 0800 99 1234, ffôn testun 0800 169 0133 (8am i 8pm dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 1pm dydd Sadwrn).

Neu, gellwch gwblhau ffurflen gais a'i phostio i'ch canolfan bensiwn am ddim.
Ffurflen gais Credyd Pensiwn [PC1] - [ffeil PDF 1mb]

Gellwch hefyd ddefnyddio fersiwn rhyngweithiol o'r ffurflen hon, y gellwch ei chwblhau ar y sgrin, yna ei hargraffu a'i phostio.
Ffurflen gais Credyd Pensiwn [PC1INT] - [ffeil PDF 1.7mb]

Credyd Pensiwn [PC1LW] - [ffeil PDF 343kb]
Credyd Pensiwn [PC1LLPW] - print bras - [ffeil PDF 344kb]

Gallwch ofyn bod copïau o ganllawiau’r Gwasanaeth Pensiwn yn cael eu hanfon atoch drwy’r post. Gallwch archebu copïau ar-lein neu archebu copïau dros y ffôn

Mae ein canllawiau hefyd ar gael yn Braille neu ar gasét sain

Sut i ddarllen neu argraffu canllawiau a ffurflenni

I ddarllen y canllawiau ar-lein, neu i’w hargraffu, mae angen i chi osod Adobe Reader ar eich cyfrifiadur. Os nad oes gennych Adobe Reader eisoes, gallwch ei gael o wefan Adobe

Ffyrdd eraill o ddarllen canllawiau

Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrîn neu borwr gwe â sain mae Adobe yn darparu offeryn ar-lein am ddim y gallwch ei ddefnyddio i drosi’r canllawiau i ffurf testun clir (‘plain text’).

I ddefnyddio offeryn ar-lein Adobe:

1. Dewch o hyd i’r cysylltiad ar y wefan hon i’r canllaw rydych am ei ddarllen, a’i gopïo
2. Ewch i offeryn ar-lein Adobe
3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn

Bydd yr offeryn yn dangos y canllaw rydych wedi’i ddewis fel tudalen ar y we (HTML) neu fel testun clir.

Gallwch ddarllen rhagor am Adobe Reader a hygyrchedd ar wefan Adobe