Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Cyflwyniad

Pensiynau: Gwybodaeth Sylfaenol

Mae angen i bawb gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad. Mae pobl yn byw bywydau hirach ac iachach, felly mae’n bwysicach fyth i chi feddwl sut a phryd i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad a pha mor hir i barhau i weithio.

Gall pensiynau fod yn ddryslyd ac ni fydd llawer o bobl yn gwybod ble i ddechrau, yn enwedig pan fydd cymaint o bethau eraill i wario eich arian arnynt. Ond y gwir yw mai pensiwn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gynilo arian oherwydd gallwch gael rhyddhad treth ar yr arian y byddwch yn ei gynilo mewn cynllun pensiwn.

Felly, drwy gynllunio rhywfaint, gallwch wneud llawer i helpu eich hun i baratoi ar gyfer ymddeoliad. Gall newidiadau cymharol fach nawr wneud gwahaniaeth mawr i'ch bywyd yn y dyfodol - ac ni fyddwch yn gwario mwy nag y dylech bob mis.

Bydd yr adran hon yn eich helpu i ddeall y ffeithiau sylfaenol y mae angen i chi eu gwybod am bensiynau, yn cynnwys:

  • beth sydd ar gael i chi gan y Wladwriaeth pan fyddwch yn ymddeol
  • rhai o'r dewisiadau ariannol y gallwch eu gwneud i baratoi ar gyfer eich ymddeoliad
  • ble y gallwch fynd i gael rhagor o wybodaeth fel y gallwch ddechrau cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad nawr
  • camau ymarferol a realistig y gallwch eu cymryd i'ch helpu i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad

Cyflwyniad cyffredinol i bensiynau yw hwn, ond dylech nodi mai dim ond man cychwyn ydyw ac nid yw'n ddatganiad cyflawn o'r gyfraith.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gael archwiliad ariannol cyflym nawr. Mae hon yn ffordd gyflym a hawdd i’ch helpu i ddechrau cynllunio eich cyllid. Dim ond ychydig o funudau y bydd yn ei gymryd ac mae’n hollol gyfrinachol.

Gwnewch eich archwiliad ariannol eich hun ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Wrth ddarllen yr adran hon efallai y byddwch yn dod ar draws geiriau a thermau nad ydych yn gwybod beth yw eu hystyr. Gallwch ddefnyddio’r rhestr geiriau i’ch helpu i’w deall.

Pensiynau: nodyn am y dyfodol

Mae’r Ddeddf Pensiynau a ddaeth yn gyfraith ar 26 Gorffennaf 2007 yn gwneud newidiadau i system Pensiynau’r Wladwriaeth. Ar y cyfan, dim ond os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • cyflwyno system newydd o gredydau a fydd yn cynyddu nifer y bobl y byddai hawl ganddynt i gael Pensiwn y Wladwriaeth
  • cynyddu Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn ôl cyfradd y cynnydd mewn enillion o 2012 ar y cynharaf ac erbyn diwedd y Senedd nesaf ar yr hwyraf
  • cynyddu oedran Pensiwn y Wladwriaeth o 65 i 68 rhwng 2024 a 2046
  • dileu'r opsiwn o eithrio ar gyfer cynlluniau pensiwn galwedigaethol â chyfraniadau diffiniedig a chynlluniau pensiwn personol

Darganfyddwch mwy am ddiwygio Pensiynau

Mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i gyflwyno'r cynlluniau cyn gynted ag y bydd amser yn caniatáu yn y Senedd. Efallai y bydd y newidiadau a gyflwynir drwy'r ddeddfwriaeth hon yn effeithio ar eich hawl i gael pensiwn yn y dyfodol.

Byddwn yn cyhoeddi unrhyw newidiadau i'r system bresennol cyn iddynt gael eu cyflwyno.