ABC

Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.

Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.

Pensiwn Anabledd Rhyfel: Taliad yw hwn a wneir i bobl sydd wedi’u hanafu neu sy’n anabl o ganlyniad i unrhyw wasanaeth yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi. Os ydych yn gymwys i wneud cais am Bensiwn Anabledd Rhyfel, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael help gyda thriniaethau meddygol. Mae help hefyd ar gael i Wyr/Gwragedd Gweddw Rhyfel. Cewch ragor o wybodaeth am Bensiwn Anabledd Rhyfel ar wefan yr Asiantaeth Cyn-filwyr

Pensiwn Dros 80 Oed: Os ydych yn 80 oed neu’n hyn ac nad ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu’n cael llai na Phensiwn y Wladwriaeth llawn gan nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, gallai fod hawl gennych i gael Pensiwn Dros 80 Oed. Cewch ragor o wybodaeth am y Pensiwn Dros 80 Oed ar y wefan hon

Pensiwn Galwedigaethol: Cynlluniau pensiwn preifat a redir gan rai cyflogwyr yw pensiynau galwedigaethol. Maent hefyd yn cael eu galw’n bensiynau gwaith, pensiynau cwmni a blwydd-dal pensiwn. Cewch ragor o wybodaeth am bensiynau galwedigaethol ar y wefan hon. Darllenwch neu argraffwch ein canllaw i bensiynau galwedigaethol

Pensiwn Gwraig Weddw: Ewch i Daliad Profedigaeth

Pensiwn Personol: Math o bensiwn preifat yw pensiwn personol sydd wedi'i gymeradwyo gan Gyllid a Thollau EM ac sy'n derbyn manteision treth penodol. Rydych yn cymryd pensiwn personol dan gytundeb gyda darparwr pensiwn ac yn cyfrannu iddo eich hunan. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai cyflogwyr yn cyfrannu i'ch pensiwn personol. Mae'n bersonol i chi, a gallwch fynd ag ef o swydd i swydd. I ddarganfod mwy am bensiynau personol

Pensiwn Rhyfel Gwragedd/Gwyr Rhyfel: Pensiwn yw Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw a delir i weddwon, gwyr gweddw neu bartneriaid sifil sydd wedi goroesi a phlant rhywun sydd wedi cael eu lladd yn y Lluoedd Arfog neu sy’n marw’n ddiweddarach o ganlyniad i anaf yn y Lluoedd Arfog. Rhagor o wybodaeth am bensiwn rhyfel gwragedd a gwyr gweddw ar wefan yr Asiantaeth Cyn-filwyr

Pensiwn y Wladwriaeth: Gallwch adeiladu hawliau i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os ydych yn talu, yn cael eich trin fel eich bod yn talu, neu’n cael eich credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol. I gael rhagor o wybodaeth gofynnwch am Ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth neu darllenwch ein canllawiau cyffredinol ar faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael.

Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol: Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol, a elwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth, sy’n cael ei dalu’n ychwanegol i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Tan fis Ebrill 2002, roedd yn cael ei adnabod fel Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) ac yn dibynnu’n unig ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol y gwnaethoch eu talu fel cyflogai. O fis Ebrill 2002, diwygiwyd Ail Bensiwn y Wladwriaeth SERPS i ddarparu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol gwell i enillwyr is a chanolig, ac i ehangu mynediad i gynnwys rhai gofalwyr a phobl anabl hirdymor. Efallai y gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol hyd yn oed os nad ydych yn cael unrhyw Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Gallwch ddod o hyd i fwy am Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu ddarllen neu argraffu ein canllaw ar etifeddu SERPS, neu ddarllen adran SERPS y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth.

Pensiwn Ymddeol: Ewch i Bensiwn y Wladwriaeth

Pensiynau Eithrio: Efallai y byddwch yn penderfynu eich bod am adael (eithrio o) Ail Bensiwn y Wladwriaeth (SERPS gynt) i ymuno â Chynllun Pensiwn Rhanddeiliaid, Galwedigaethol neu Bersonol. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth drwy ddarllen neu argraffu ein canllawiau ar bensiynau eithrio.

Pensiynau Preifat: Mae cynllun pensiwn preifat yn ddibynnol ar daliadau uniongyrchol i fudiad sy'n buddsoddi ar eich rhan. Gall gael ei sefydlu gan gyflogwr neu gwmni ariannol preifat. Mae pensiynau galwedigaethol a phensiynau personol (yn cynnwys pensiynau cyfranddeiliaid a phensiynau personol grwp) yn fathau o bensiynau preifat.
I ddarganfod mwy am bensiynau preifat
I ddarganfod mwy am bensiynau personol
I ddarganfod mwy am bensiynau galwedigaethol

Pensiynau rhanddeiliaid: Pensiynau rhanddeiliaid yw pensiynau preifat tâl isel. Mae’n rhaid i’r pensiynau hyn fodloni nifer o safonau gofynnol y llywodraeth i sicrhau eu bod yn cynnig gwerth am arian a hyblygrwydd. Cewch ragor o wybodaeth am bensiynau rhanddeiliaid ar y wefan hon

Pobl anabl: Mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn haws i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau drwy wefan o’r enw Directgov. Mae’n darparu gwybodaeth i bobl anabl o bob oed mewn meysydd fel cyflogaeth, byw yn annibynnol, arian, dysgu a hawliau. Gwybodaeth i bobl anabl ar wefan Directgov. Gwybodaeth i ofalwyr ar wefan Directgov

Presgripsiynau: Mae pawb sydd yn 60 oed neu’n hyn yn cael presgripsiynau a phrofion llygaid GIG am ddim. Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, efallai y gallwch hefyd gael wigiau, a chymhorthion ffabrig am ddim a thalebau tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd. Cewch ragor o wybodaeth am bresgripsiynau ar wefan yr Adran Iechyd

Profedigaeth: Os yw perthynas yn marw, efallai y byddwch angen gwybod beth i'w wneud ynglŷn â'u Pensiwn y Wladwriaeth, pensiwn preifat neu Gredyd Pensiwn. Darganfyddwch fwy ynglyn â cholli rhywun annwyl

Profion llygaid: Os ydych yn 60 oed neu’n hŷn, gallwch gael profion llygaid am ddim gyda’r GIG. Cewch ragor o wybodaeth am brofion llygaid ar wefan yr Adran Iechyd