ABC

Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.

Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.

Galw Iechyd Cymru: Llinell gymorth ffôn 24 awr yw hon sydd ar agor 365 diwrnod yr wythnos. Nod y gwasanaeth yw rhoi cyngor clinigol yn ogystal â mynediad i fwy o gyngor a gwybodaeth gyffredinol. Gallwch hefyd gael mynediad i Galw Iechyd Cymru ar-lein. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Galw Iechyd Cymru

Gofal deintyddol: Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, gallwch gael triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim. Cewch ragor o wybodaeth am ofal deintyddol ar wefan yr Adran Iechyd

Gofalu am eraill: Mae rhagor o help ar gael os ydych yn ofalwr. Mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn haws i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau drwy wefan o’r enw Directgov. Mae’n darparu gwybodaeth i ofalwyr mewn meysydd fel cyflogaeth, addysg, gwasanaethau cymorth, hawliau a materion ariannol. Cewch ragor o wybodaeth i ofalwyr ar wefan Directgov
Darganfyddwch sut y gellwch gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth

Gofalwyr: Ewch i Gofalu am eraill

Gogledd Iwerddon: Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ewch i wefan Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol Gogledd Iwerddon yn www.dsdni.gov.uk

Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth: Mae’n golygu gohirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth, pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu ddewis rhoi’r gorau i’w hawlio ar ôl bod yn ei hawlio am gyfnod. O 6 Ebrill 20005 efallai y gallwch gael pensiwn wythnosol ychwanegol pan fyddwch yn gwneud cais yn y pen draw neu gyfandaliad trethadwy unigol pan fyddwch yn gwneud cais yn y pen draw.

Cynlluniwyd y newid hwn i roi mwy o ddewis i chi ar sut a phryd y byddwch yn ymddeol gan ei wneud yn fwy deniadol i ohirio cymryd eich pensiwn y wladwriaeth. Cewch ragor o wybodaeth am ohirio Pensiwn y Wladwriaeth

Grant Gofal Cymunedol: Os ydych yn cael Credyd Pensiwn a bod angen help arnoch i aros yn eich cartref eich hun neu ddychwelyd iddo, gallai fod hawl gennych i gael cymorth gyda chost eitemau ar gyfer eich cartref, dillad a chostau teithio. Nid oes rhaid i chi dalu’r grant yn ôl. Cewch ragor o wybodaeth am grantiau gofal cymunedol ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Gwaith â thâl: Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond am barhau i wneud gwaith â thâl, gallech fanteisio ar y Fargen Newydd 50 a Throsodd. Rhagor o wybodaeth am waith â thâl ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gwaith Gwirfoddol: P’un a ydych am helpu plant i ddysgu darllen neu helpu i lanhau’r amgylchedd, efallai bod cyfle yn lleol ar eich cyfer chi. Gall eich Swyddfa Wirfoddolwyr leol ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr hyn. Os ydych yn byw yn yr Alban, gwnewch yn siwr eich bod yn dewis fersiwn yr Alban o’r canllaw i bensiynwyr i gael manylion. Rhagor o wybodaeth am waith gwirfoddol

Gwarant Isafswm Incwm: O fis Hydref 2003 disodlwyd Gwarant Incwm Isafswm gan Gredyd Pensiwn. Cewch ragor o wybodaeth am Gredyd Pensiwn ar y wefan hon

Gwarchod Cymdogaeth: Hon yw un o’r mentrau atal trosedd fwyaf yn y DU. Mae’r cynllun yn caniatáu i bobl leol weithio gyda’i gilydd i helpu’r heddlu i leihau trosedd. Rhagor o wybodaeth am Warchod Cymdogaeth

Gwasanaethau cyfreithiol: Os ydych am ddod o hyd i wybodaeth ar faterion fel problemau dyled, budd-daliadau a thai, gall y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol eich helpu. Ei nod yw rhoi mynediad i chi i wasanaeth cyfreithiol a chyngor o ansawdd da. Rhagor o wybodaeth am wasanaethau cyfreithiol

Gwasanaethau Cymdeithasol: Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol eich helpu i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun. Os yn briodol, gallant hefyd eich cynghori ar symud i dy lloches neu dy preswyl. Rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymdeithasol

Gweithio ar ôl eich Oedran Pensiwn y Wladwriaeth: Ewch i Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth neu Gwaith gwirfoddol

Gwiriad ariannol: Mae gwiriad ariannol ar lein yn becyn cyflym a hawdd i'ch helpu i gychwyn cynllunio ar gyfer eich arian. Mae'n cymryd ychydig o funudau i'w gwblhau ac yn hollol gyfrinachol.
Gwnewch eich gwiriad ariannol eich hunan ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth yn hwyrach: Ewch i Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth

Gwragedd/Gwyr Gweddw: Ewch i Daliad Profedigaeth