Gwasanaeth Olrhain Pensiwn

Os ydych yn meddwl fod gennych hen bensiwn, ond ddim yn siwr o’r manylion, efallai y gallai’r Gwasanaeth Olrhain Pensiwn helpu. Fe geisiwn gydweddu’r gwybodaeth roddwch i ni i un o’r cynlluniau ar ein cronfeydd data a gadael i chi wybod y canlyniadau. Os ydym wedi cydweddu byddwn yn rhoi cyfeiriad cyswllt y cynllun(iau) a gallwch eu cysylltu i weld os oes gennych rhywfaint o fuddion pensiwn.

Nodir:

  • ni fyddwn yn gallu dweud wrthych os bydd gennych unrhyw hawl i fuddion pensiwn, dim ond gweinyddwr y cynllun all roi’r gwybodaeth hwn i chi.
  • ni fydd tâl yn cael ei godi arnoch am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Os buasai’n well gennych olrhain eich cynllun pensiwn drwy ffonio neu bost, gallwch:

  1. Rhoi eich enw a rhif ffon i ni ar y ffurflen syml hon a bydd aelod o’r tim yn eich ffonio ac yn cynnal yr olrhain ar eich cyfer.
  2. Cysylltwch â ni ar 0845 6002 537 a gallwn olrhain eich cynllun pensiwn dros y ffôn, neu ofyn am ffurflen gais. Mae llinellau yn agored dydd Llun i ddydd Gwener 8.00am i 6.00p.m. I alw’r Gwasanaeth Olrhain Pensiwn o dramor ymwelwch â ‘cysylltu â ni o dudalen dramor’
  3. Ysgrifennu atom i:
    Pension Tracing Service
    The Pension Service
    Room TB201
    Tyneview Park
    Whitley Road
    Newcastle upon Tyne
    NE98 1BA

Os oes gennych anawsterau lleferydd neu glyw gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio Ffôn testun ar 0845 3000 169. Neu gallwch ddefnyddio gwasanaeth text-direct BT drwy ddeialu 18001 yna dilyn gyda’r rhif ffôn testun.

Beth sydd angen arnom gennych?

Rydym angen gwybod o leiaf enw eich cyn gyflogwr neu gynllun pensiwn. Os gallwch roi’r gwybodaeth canlynol bydd gennym well siawns o gael hyd i gyswllt presennol a chyfeiriad i’r cynllun.

  • Enw a chyfeiriad llawn y cyflogwr a redodd y cynllun pensiwn galwedigaethol rydych yn ceisio ei olrhain. A wnaeth y cyflogwr newid enwau, neu a oedd yn rhan o grwp mwy o gwmnïau?
  • Y math o bensiwn roeddech yn perthyn iddo. Er enghraifft a oedd yn gynllun pensiwn galwedigaethol, cynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn personol grwp?
  • Pryd roeddech yn perthyn i'r cynllun pensiwn hwn?

I gynlluniau pensiwn galwedigaethol:

  • A oedd y cyflogwr yn masnachu o dan enw gwahanol?
  • Pa fath o fusnes roedd y cyflogwr yn ei redeg?
  • A wnaeth y cyflogwr newid cyfeiriad ar unrhyw adeg

I gynlluniau pensiwn galwedigaethol:

  • Beth oedd enw'r cynllun pensiwn personol?
  • O ba gyfeiriad y cafodd ei redeg?
  • Beth oedd enw'r cwmni yswiriant a oedd yn ymwneud â'r cynllun pensiwn personol?