Agosáu at ymddeol

Cysylltau perthnasol

Ddim yn barod i ymddeol?

Gellwch ddarganfod mwy o wybodaeth am Waith Gwirfoddol a Gwaith a Thâl yn ein hadran ymddeol neu yn yr adran Dros 50 o wefan Directgov. Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn y Canllaw i Bensiynwyr.

Darllenwch ac argraffwch y Canllaw i bensiynwyr

Gwobr am wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth yn ddiweddarach

Gallwch hefyd ddewis gohirio gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol mwy pan fyddwch yn gwneud cais yn y pen draw.

Dewis Newydd Pwysig o 6 Ebrill 2005

Mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno dewis newydd ar gyfer pobl sy'n gohirio gwneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth. Gallai pobl gael pensiwn wythnosol ychwanegol pan fyddant yn gwneud cais yn y pen draw neu'r dewis o gyfandaliad trethadwy unigol pan fyddant yn gwneud cais yn y pen draw.

Cynlluniwyd y newid hwn i roi mwy o ddewis i chi ar sut a phryd y byddwch yn ymddeol gan ei wneud yn fwy deniadol i ohirio cymryd eich pensiwn y wladwriaeth

Eich Opsiynau

Mae penderfynu pryd i wneud cais am eich pensiwn y wladwriaeth yn benderfyniad pwysig. Efallai eich bod eisoes yn meddwl am ymagwedd fwy hyblyg tuag at eich ymddeoliad ac o 6 Ebrill 2005, bydd mwy o ddewis yn agored i chi.

Byddwch yn dal i allu

  • ymddeol o'ch gwaith a gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth, pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth; neu
  • gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ond parhau i weithio, neu
  • gohirio gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth (p'un a fyddwch yn gweithio ai peidio).

Ond bydd y rheolau newydd yn rhoi mwy o Bensiwn y Wladwriaeth am y cyfnod y byddwch yn gohirio gwneud cais, a dewis newydd o ran sut i gymryd yr arian ychwanegol. Gallwch hefyd ohirio gwneud cais am gyn hired ag yr ydych am wneud a chael eich gwobr.

Efallai nad yw gohirio gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth yn iawn i bawb ond os ydych yn meddwl y gallai fod yn iawn i chi, mae'n bwysig i chi gael rhagor o wybodaeth cyn i chi benderfynu. Mae gennym wybodaeth i'ch helpu, a gallwch hefyd ofyn am gyngor gan ymgynghorydd ariannol neu siarad â theulu a ffrindiau.

Cewch ragor o wybodaeth am gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn ddiweddarach yn yr adran gohirio Pensiwn y Wladwriaeth

Gwneud y gorau o fywyd diweddarach

Mae adran Dros 50 gwefan Directgov yn eich cyfeirio i'r cyfeiriad cywir ar gyfer help a chyngor sydd ar gael drwy'r Llywodraeth a mudiadau gwirfoddol.

Mae'n darparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer mudiadau cymunedol a gwirfoddol, cyfleon hyfforddiant a chyngor ar iechyd a ffitrwydd.

Rhagor am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Gallwch ddarllen ac argraffu Pensiynau'r Wladwriaeth - Eich canllaw neu Pensiynau'r Wladwriaeth i ofalwyr a rhieni - Eich canllaw o'n canolfan adnoddau.

Gallwch hefyd ddarllen mwy am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn ein hadran ABC.