Agosáu at ymddeol

Cysylltau perthnasol

Cyflwyniad

Gallwn helpu pan fo ymddeoliad ar y gorwel

Wrth i chi agosáu at ymddeol, rydym yma i helpu. Mae'r adran hon yn dweud wrthych am eich Pensiwn y Wladwriaeth a sut i fynd ati i wneud cais amdano. Byddwn yn dweud wrthych sut y gallwch adolygu eich sefyllfa ariannol, fel bod gennych syniad da faint o arian a fydd gennych i fyw arno ar ôl ymddeol.

Byddwn hefyd yn dweud wrthych am gymorth ychwanegol y llywodraeth y gallech ei gael os bydd ei angen arnoch, fel Credyd Pensiwn.

Nid oes rhaid i chi roi'r gorau i weithio i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth, neu gallwch ddewis gohirio gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth i gael rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol pan fyddwch yn gwneud cais yn y pen draw neu'r dewis o gyfandaliad trethadwy unigol, ond mae angen i chi ddeall eich opsiynau i gyd. Rydym am eich rhoi ar y trywydd cywir fel y gallwch wneud yn siwr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Gwneud y gorau o fywyd diweddarach

Mae adran Dros 50 gwefan Directgov yn eich cyfeirio i'r cyfeiriad cywir ar gyfer help a chyngor sydd ar gael drwy'r Llywodraeth a mudiadau gwirfoddol.

Mae'n darparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer mudiadau cymunedol a gwirfoddol, cyfleon hyfforddiant a chyngor ar iechyd a ffitrwydd.

Ydych chi dros 50 oed?

Cewch fwy o wybodaeth yn ein canllaw ymarferol ar gyfer cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau ar draws y llywodraeth

Olrhain hen bensiwn

Os ydych am olrhain hen bensiwn, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau. Byddant fel arfer yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth i chi.

Anafiadau yn gysylltiedig â gwaith

Os ydych wedi dod yn anabl drwy ddamwain yn y gwaith, neu'n dioddef afiechyd neu fyddardod a achoswyd gan swydd a wnaethoch, efallai y gallwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol. Cewch ragor o wybodaeth am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.

Newidiadau i bensiynau

Mae Deddf Pensiynau 2007 yn gwneud newidiadau i system Pensiynau’r Wladwriaeth. Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny (h.y. os ydych yn ddyn, cawsoch eich geni ar ôl 5 Ebrill 1945 ac, os ydych yn ferch, cawsoch eich geni ar ôl 5 Ebrill 1950) gallech, o dan y cynigion, gael hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth uwch nag y byddech yn ei gael o dan y rheolau presennol.

Darganfyddwch mwy am ddiwygio Pensiynau

Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein

Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

A allaf gael rhagolwg?

Sut i wneud cais am ragolwg

Cewch ragolwg pensiwn arlein yn syth ewasanaeth Logo e-wasanaeth

Defnyddiwch ein cyfrifianell oedran Pensiwn y Wladwriaeth i gael gwybod pa bryd y byddwch yn gymwys i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth

Cewch wybod sut y gallai’r newidiadau effeithio eich Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Future Pension Centre (FPC)