Amdanom ni

Cyflwyniad

Pwy ydym ni

Mae’r Llywodraeth wedi sefydlu’r Gwasanaeth Pensiwn, sy’n rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Fe’i sefydlwyd i wella’r gwasanaeth rydych yn ei dderbyn, p’un a ydych eisoes yn bensiynwr neu’n cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad, waeth pa mor bell i ffwrdd y gallai hynny fod.

Mae gan Y Gwasanaeth Pensiwn rwydwaith o ganolfannau pensiwn a gefnogir gan wasanaeth lleol. I ganfod sut i gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn yn eich ardal, ewch i Cysylltu â ni.

Pwy ydym ni

Bydd Y Gwasanaeth Pensiwn yn:

  • gweithio allan y swm o Bensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn y mae gennych hawl iddynt
  • darparu gwasanaeth wyneb yn wyneb mewn lle sy'n gyfleus i chi neu yn eich cartref eich hun os na ellir delio â'ch materion dros y ffôn
  • talu'r hyn sydd gennych hawl iddo ac ateb cwestiynau dros y ffôn a thrwy'r post a thros yr e-bost
  • dweud wrthych sut y gallwch gael gafael ar hawliadau
  • gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â phensiwn· gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill er mwyn cyflwyno gwasanaethau sy'n gysylltiedig â phensiwn

Ein cynllun busnes

Y Gwasanaeth Pensiwn Cynllun Busnes 2007/08

Ein cynlluniau cydraddoldeb

Cynlluniau Cydraddoldeb Y Gwasanaeth Pensiwn

Ein hadroddiad blynyddol

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Y Gwasanaeth Pensiwn 2006/07